Y Ddinas - ofni ail ddirwasgiad
Mae’r Llywodraeth yn gwadu honiadau eu bod ar fin chwistrellu £5 biliwn i mewn i’r economi trwy wledydd Prydain.

Er hynny, mae yna awgrymiadau pellach y gallen nhw roi arian at gynlluniau cyfalaf – fel ffyrdd, adeiladau a rheilffyrdd – er mwyn ceisio sbarduno twf yn yr economi.

Hwnnw fyddai ‘Cynllun A+’ wrth i’r Llywodraeth fynnu nad oes unrhyw ddewis ond torri’n llym ar wario.

Llai o dwf

Daw’r dyfalu ar ôl i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol, yr IMF, ostwng eu proffwydoliaeth ar gyfer twf yng ngwledydd Prydain – i lawr o 1.5% i 1.1% eleni ac o 2.3% i 1.6% y flwyddyn nesa’.

Y BBC sydd wedi gwneud yr honiadau am y £5 biliwn wrth i weinidogion fynnu y byddan nhw’n cadw at eu cynlluniau i dorri ar wario.

Ac mae gweinidogion fel Chris Huhne, y Democrat Rhyddfrydol, wedi awgrymu ei bod hi’n bosib dal i dorri ar wario o ddydd i ddydd ond rhoi arian at wario cyfalaf.

Yn ôl yr IMF, mae economi’r byd yn mynd i mewn i gyfnod peryglus newydd ac mae’n rhaid i lywodraethau wneud yn siŵr eu bod yn annog twf rhag ofn ail ddirwasgiad.

Yn ôl y llefarydd ar ran y Llywodraeth, roedd hi’n gysur gwybod bod disgwyl i wledydd Prydain dyfu mwy y flwyddyn nesa’ na gwledydd fel y Ffrainc a’r Almaen.

Argyfwng yr Euro

Ddoe hefyd, roedd un o’r prif gwmnïau sy’n pwyso a mesur sefyllfa economaidd y gwahanol wledydd, wedi gostwng safle credyd yr Eidal – rhan o’r argyfwng sy’n bygwth yr Ewro.

Erbyn hyn, mae’r rhan fwya’ o economegwyr a gwleidyddion yn derbyn y bydd Gwlad Groeg yn methu â thalu ei dyledion – y cwestiwn bellach yw sut y bydd hynny’n digwydd a beth fydd yr effaith.

Llywodraeth yn gwadu cynllun i wario £5 biliwn

Ond mwy o bwysau arnyn nhw a gwledydd eraill i hybu twf