Mae Heddlu Llundain wedi cyfaddef bod swyddog cudd wedi cael perthynas rywiol ag ymgyrchydd amgylcheddol, a bod penaethiaid wedi bod yn ymwybodol o hynny.

Mae Kate Wilson, a fu mewn perthynas â Mark Kennedy am ddwy flynedd, wedi cyhuddo swyddogion y llu o gynllwynio i’w “thwyllo” a’i “cham-drin”.

Hi yw un o’r wyth dynes sydd wedi mynd â’r heddlu i’r llys ar ôl cael ffug berthynas gydâ swyddogion a oedd yn gweithredu’n gudd.

Mae Heddlu Llundain wedi dod i gyfaddawd a phob un o’r rhain gan eithrio Kate Wilson, ac yn sgil dyfarniad o’i phlaid yn yr Uchel Lys, bydd tribiwnlys yn gwrando ar ei hachos ar Hydref 3.

Cyfaddefiad

Daw cyfaddefiad y llu mewn dogfen sydd bellach wedi dod i law Police Spies Out Of Lives, sef y corff sy’n darparu cymorth cyfreithiol i’r menywod.

“Mae’r llu wedi cyfaddef wrth y tribiwnlys bod nifer anhysbys o swyddogion, ynghyd â rheolwr, wedi gwybod am, ac wedi cydsynio â’r berthynas,” meddai’r ddogfen.

“Mae hynny’n golygu bod o leiaf wyth swyddog wedi caniatáu i Ms Wilson gael ei thwyllo â pherthynas hir dymor agos.”

Twyllo

Dechreuodd perthynas Kate Wilson a Mark Kennedy yn 2003, ond doedd y sgandal heb ddod i’r fei tan 2011.

Yn 2015, mi ymddiheurodd Heddlu Llundain i’r wyth dynes a gafodd eu twyllo gan swyddogion cudd gan fynnu “na fyddai’r [perthnasau] erioed wedi’u caniatáu o flaen llaw”.