Mae gweinidog yn y Cabinet wedi dweud nad oes bwriad i gyflwyno newidiadau i gynllun Brexit Theresa May ar hyn o bryd, yn sgil rhybuddion clir gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Chris Grayling wedi mynnu bod Prydain yn “paratoi’n galed” ar gyfer Brexit heb gytundeb, er ei fod yn ffyddiog y bydd “cytundeb call” yn cael ei wneud gyda Brwsel.

Dywedodd na fyddai’r Llywodraeth yn derbyn cytundeb a fydd yn arwain  at ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Deyrnas Unedig.

Ond mae llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk wedi pwysleisio na fydd agweddau economaidd yng nghynllun Chequers Theresa May yn gweithio, tra bod y cyn-Ysgrifennydd Brexit David Davis wedi datgelu y gallai hyd at 40 o Geidwadwyr bleidleisio yn erbyn y cynllun.

Mae’r Prif Weinidog hefyd yn wynebu pwysau gan blaid y DUP sydd yn galw arni i sicrhau na fydd y Deyrnas Unedig “yn cael ei bwlio” gan yr UE wrth i’r trafodaethau ddirwyn i ben.