Mae chwarter o gwmnïau gweithgynhyrchu yn disgwyl colli gweithwyr a chontractau newydd oherwydd Brexit, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r arolwg o 500 cwmni  hefyd yn dangos bod un o bob chwech yn pryderu y bydd y busnes yn “anghynaladwy” petai ragor o dariffau a gwyriadau ffin.

Yn ôl yr EEF – Ffederasiwn y Cyflogwyr Peirianneg gynt – mae eu hymchwil yn dangos bod cwmnïau yn awyddus i gael rhagor o eglurder gan Lywodraeth San Steffan tros Brexit.

“Mae’r ymchwil heddiw yn atgyfnerthu’r ddadl bod angen i weithgynhyrchwyr gael cytundeb, er mwyn sicrhau eu bod yn medru cyfrannu at yr economi,” meddai Prif Weithredwr EEF, Stephen Phipson.

“Mae hefyd angen eglurder arnyn nhw, fel eu bod yn medru paratoi … Diwydiant yw un o’r gemau yng nghoron economi’r Deyrnas Unedig. A gallai barhau i fod yn em wedi Brexit.”

Canfyddiadau

  • Mae 1/4 o’r cwmnïau wedi gohirio cynlluniau oherwydd Brexit
  • Dydy dros 4/5 ddim yn barod ar gyfer Brexit heb gytundeb
  • Mae 1/4 yn disgwyl gorfod newid eu cynlluniau twf
  • Mae bron i 1/3 yn cael trafferth cyflogi gweithwyr â sgiliau