Mae dyn a honnodd iddo gael ei daro’n wael dros y penwythnos – gan danio ymchwiliad heddlu – wedi chwarae castiau ar Dywysog Siarl yn y gorffennol, yn ôl adroddiadau.

Cafodd Alex King, 42, a’i wraig Anna Shapiro, 30, eu cludo i’r ysbyty ar dydd Sul (Medi 16) ar ôl honni iddyn nhw gael eu taro’n wael mewn bwyty yn Salisbury.

Gan fod cwpwl wedi’u gwenwyno yn y ddinas honno ym mis Mawrth, bu tipyn o ymateb i’r achos a chafodd y bwyty a’r strydoedd cyfagos eu cau.

Bellach mae’r cwpwl wedi’u rhyddhau, ac yn ôl meddygon doedd dim gwenwyn yn eu cyrff.

Yn ôl adroddiadau, llwyddodd Alex King â chwarae castiau ar Dywysog Siarl yn ystod dangosiad ffilm yn 2016. Ac mae’n debyg ei fod hefyd wedi’i farnu’n euog o drosedd yn y gorffennol.

Ymchwilio

Mae Heddlu Wiltshire wedi dweud y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad i’r achos, ac mae adroddiadau’n awgrymu eu bod yn ystyried y posibiliad mai twyll oedd y cyfan.

“Mae’r ddynes o’r bwyty wedi cael ei chyfweld unwaith, ac mae’n debygol y bydd yn cael ei chyfweld eto,” meddai llefarydd. “Y cam nesaf yw siarad â’r dyn sydd ynghlwm â hyn.”