Mae’r Aelod Seneddol o Ogledd Iwerddon, Ian Paisley, wedi diolch i’w gefnogwyr ar ôl iddo lwyddo i sicrhau – o drwch blewyn – na fydd yn gorfod wynebu isetholiad.

Byddai Aelod Seneddol dros Ogledd Antrim wedi gorfod wynebu colli ei sedd pe bai 10%, sef 7,543, o’i etholwyr yn arwyddo deiseb i’w dynnu’n ôl fel Aelod Seneddol.

Ond dim ond 9.4% (7,099) wnaeth ei harwyddo.

Cafodd y ddeiseb ei sefydlu ar ôl i Ian Paisley gael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am 30 diwrnod am fethu â chadarnhau ei fod wedi derbyn dau gyfnod o wyliau yn 2013 ar gost Llywodraeth Sri Lanka.

Mae corff llywodraethol hefyd wedi darganfod bod Ian Paisley tua’r un adeg wedi lobïo’r Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron, i beidio â chefnogi ymchwiliad gan y Cenhedloedd Unedig ynghylch cam-drin dynol yn Sri Lanka.

Mae plaid Ian Paisley, y DUP, yn dal i gynnal ymchwiliad i’r mater.