Mae dyn 38 oed mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ar ôl cael ei saethu yn ei ben mewn fflat yn Glasgow.

Ymosododd dau ddyn arno ar ôl dod allan o gar nos Fawrth yn cuddio’u hwynebau.

Mae’r heddlu’n credu i’r dyn gael ei dargedu’n fwriadol ac maen nhw’n trin y digwyddiad fel ymgais i’w lofruddio.

Ugain munud ar ôl yr ymosodiad, cafodd yr heddlu wybod am wrthdrawiad yn yr ardal, ac fe gafodd y gyrrwr ei gludo i’r ysbyty. Does dim tystiolaeth o gysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad, ond mae’r heddlu’n cadw meddwl agored.