Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi galw am gyfaddawd ar gytundeb Brexit wrth i Frwsel baratoi i gyflwyno cynnig newydd at ffiniau Iwerddon.

Wrth i arweinwyr Ewropeaidd baratoi am gyfarfod yn Salzburg, dywedodd prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier ei fod yn paratoi cynllun pellach i sicrhau ffin galed tra’n parchu tiriogaeth y Deyrnas Unedig.

Mae Michel Barnier wedi rhybuddio bod yr amser i ddod i gytundeb yn rhedeg allan, ac y byddai angen datrysiad erbyn Hydref 18, pan fydd uwchgynhadledd yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei chynnal.

Dyma’r cyfarfod cyntaf ers i Theresa May gyhoeddi ei chynlluniau Brexit ym mis Gorffennaf.

Mae disgwyl iddi drafod ei chynlluniau dros ginio heddiw, a bydd trafodaeth pellach rhwng yr arweinwyr ddydd Iau ar ôl iddi hi adael.

‘Y cynllun cywir’

Mewn cyfweliad â’r Daily Express, dywedodd Theresa May mai ei chynlluniau hi yw’r rhai “cywir” i’r Deyrnas Unefig ac i’r Undeb Ewropeaidd, ac nad oedd hi’n fodlon cael ei “gwthio i ffwrdd o wneud yr hyn sy’n angenrheidiol i sicrhau’r cytundeb cywir i Brydain”.

Dywed llefarydd fod disgwyl i Theresa May ddweud wrth Ewrop fod y sefyllfa “wedi esblygu” ac y byddai angen i’r Undeb Ewropeaidd ymateb er mwyn sicrhau cytundeb.

Bydd yn pwysleisio bod cyflwyno ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon pe na bai cytundeb yn “annerbyniol”.

Yn ôl cynllun Brwsel, byddai sicrhau parhad Gogledd Iwerddon yn yr undeb tollau cyn sicrhau cytundeb newydd yn gyfystyr â ffin galed.

Osgoi Brexit ‘di-drefn’

Bydd Theresa May hefyd yn dweud wrth arweinwyr Ewrop yn Salzburg fod modd osgoi Brexit “di-drefn” o hyd, dim ond bod “ewyllys da” ar y ddwy ochr.

Bydd hi’n dweud y bydd Prydain yn cadw at y protocol o ran ffiniau Iwerddon, ond fod rhaid cynnal hawliau cyfansoddiadol ac economaidd Prydain ar yr un pryd.

Dyw’r cytundeb presennol ddim yn gwneud hynny, yn ôl Theresa May.

Ond wrth ymateb, mae Michel Barnier wedi rhybuddio Prydain fod materion y ffin wedi codi o ganlyniad i benderfyniad Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd, y farchnad sengl a’r undeb tollau.