Mae dau o bobol wedi’u hanafu ar ôl i gar daro i mewn i bobol y tu allan i fosg yng ngogledd-orllewin Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i Cricklewood yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad tua 12.35 fore heddiw (dydd Mercher, Medi 19).

Does neb wedi cael anafiadau sydd yn peryglu eu bywydau.

Dywed yr heddlu nad oedd y gyrrwr wedi stopio a’u bod yn cadw meddwl agored o safbwynt yr hyn oedd wedi achosi’r gwrthdrawiad.

Dyw’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol.