Mae Theresa May yn dweud y bydd yn rhaid i Aelodau Seneddol ddewis rhwng ei chytundeb hi gyda’r Undeb Ewropeaidd, neu ddim cytundeb o gwbwl.

Daw ei sylwadau mewn cyfweliad ar raglen Panorama y BBC lle mae hi hefyd yn feirniadol o gynlluniau cefnogwyr Brexit i geisio datrys y broblem gyda ffin Iwerddon.

Wrth siarad ar y rhaglen, dywedodd y Prif Weinidog os nad yw’r Senedd yn cymeradwyo cynllun Chequers yr unig ddewis arall yw cael dim cytundeb o gwbwl.

Ychwanegodd bod angen osgoi ffin galed yn Iwerddon. Ond mae Boris Johnson yn beirniadu ei sylwadau gan ddweud bod ei methiant i ddatrys y cwestiwn am ffin Iwerddon yn “ffieidd-dra cyfansoddiadol” a fydd yn tanseilio Brexit yn llwyr.

Fe fydd rhaglen BBC Panorama, Inside No 10: Deal or No Deal? yn cael ei darlledu ddydd Llun, Medi 17 am 8.30yh.