Mae pum gwaith y nifer o droseddau’n ymwneud â daliadau asgell dde eithafol wedi’u cyflawni ers llofruddiaeth Jo Cox yn 2016.

Erbyn diwedd mis Mehefin, roedd 28 o frawychwyr wedi’u cyhuddo neu’n cael eu hamau o droseddau asgell dde eithafol yn y ddalfa – o’i gymharu â chwech adeg llofruddiaeth aelod seneddol Batley & Spen yn Swydd Efrog ym mis Mehefin 2016.

Cafodd hi ei saethu a’i thrywanu i farwolaeth gan Thomas Mair, cefnogwr asgell dde eithafol 55 oed, yn Birstall yng Ngorllewin Swydd Efrog.

Rhwng 2013 a’i marwolaeth dair blynedd yn ddiweddar, roedd chwech o gefnogwyr asgell dde eithafol yn y ddalfa.

Ond roedd 10 erbyn 2017, a 28 erbyn mis Mehefin eleni.

Ymhlith y rhai eraill yn y ddalfa yn y cyfnod hwn roedd Darren Osborne, oedd wedi taro i mewn i Fwslemiaid yn Finsbury Park yn Llundain, ac aelodau o fudiad National Action.

Am y tro cyntaf ers 2005, mae mwy o bobol â chroen gwyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau brawychol na phobol o dras Asiaidd.

Wrth ymateb i’r ffigurau, dywedodd Gweinidog Diogelwch San Steffan, Ben Wallace fod y ffigurau’n “dangos bod ein hymateb yn llwyddo” a bod “mwy o achosion llys brawychiaeth nag erioed erbyn hyn, a dedfrydau hwy i’r troseddwyr mwyaf peryglus”.