Mae Vince Cable wedi pwysleisio unwaith eto na fydd yn rhoi’r gorau i arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol am y tro.

Mae wedi wfftio awgrym un o’i ragflaenwyr, yr Arglwydd Menzies Campbell ei fod yn “rhedeg allan o heol”.

Dywedodd yr arweinydd eisoes ei fod yn barod i arwain y blaid tan ar ôl i sefyllfa Brexit gael ei datrys, ac y gallai fod yn ei swydd tan ar ôl yr etholiadau lleol fis Mai nesaf.

Ond yn ôl Menzies Campbell, gall Vince Cable “weld diwedd yr heol”.

Ymateb yr arweinydd

Wrth siarad ar raglen Andrew Marr y BBC, dywedodd Vince Cable, “Dw i ddim yn rhedeg allan o heol, mae yna heol hir o’n blaenau.”

Daeth ei sylwadau ar ôl i Menzies Campbell ei ganmol am “roi o’i orau” yn y swydd, ac am “ddod â sefydlogrwydd angenrheidiol” i’r blaid.

Ond dywedodd Vince Cable fod yna “ansicrwydd” ynghylch a fyddai’n arweinydd ar ddiwedd y flwyddyn nesaf, ac na fyddai’n “gosod gorwel amser” ar ei gyfnod wrth y llyw.

“Byddai’n ffolineb gwneud hynny gyda chymaint o ansicrwydd yn hedfan o gwmpas,” meddai.

Ond fe ddywedodd ei bod yn “annhebygol” y byddai’n dal wrth y llyw erbyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2022.