Dylai’r Undeb Ewropeaidd wneud cynnig i Lywodraeth Prydain er mwyn rhoi’r gorau i’w “pharlysu” tros Brexit, yn ôl cyn-Brif Weinidog Llafur Prydain, Tony Blair.

Dywedodd wrth ŵyl Open Future, sydd wedi’i threfnu gan yr Economist fod “parlysu o fewn Senedd Prydain” ac y dylai’r Undeb Ewropeaidd “wneud cynnig i ni”.

He told the Open Future Festival, organised by the Economist: “I think there is paralysis in the British Parliament, my view is they should make us an offer.”

Dywedodd mai’r “cyfyng gyngor sylfaenol” yn y trafodaethau yw a ddylid aros yn agos i’r Undeb Ewropeaidd neu dorri’n gyfangwbl o ran y farchnad sengl a’r undeb tollau – rhywbeth a fyddai’n niweidio’r economi, meddai.

Ail refferendwm

Awgrymodd Tony Blair y byddai’n ffafrio gweld pobol Prydain yn cael pleidleisio eto mewn ail refferendwm ar amodau Brexit.

“Yr ateb gorau,” meddai, “fyddai mynd yn ôl at y bobol a dweud, ‘Edrychwch, ry’n ni wedi cael dwy flynedd a hanner o’r trafodaethau hyn, ry’n ni i gyd yn gwybod yr opsiynau, ydych chi am barhau neu ydych chi am aros?”

Ar hyn o bryd, mae disgwyl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth.