Mae erlynydd mewn achos yn Fflorida wedi dweud bod llongwr wedi suddo cwch a llofruddio’i wraig er mwyn etifeddu ei harian a dod â’u problemau priodasol i ben.

Roedd Lewis Bennett o Swydd Dorset yn smyglo darnau arian prin pan gafodd ei achub oddi ar arfordir Ciwba. Doedd ei wraig, Isabella Hellmann, ddim gyda fe ar y pryd.

Mae e wedi’i gyhuddo gan yr FBI o’i llofruddio.

Mae erlynwyr hefyd yn honni i ddyfais glustfeinio gael ei gosod yn ei chartref yn Fflorida gan ei theulu, gan eu bod yn amau bod Lewis Bennett yn gyfrifol am ei diflaniad.

Roedden nhw’n hwylio fis Mai diwethaf pan wnaeth Lewis Bennett alwad brys yn dweud bod ei wraig ar goll a’r cwch yn suddo.

Mae erlynwyr yn awyddus i’r llys glywed tystiolaeth am sgyrsiau ag aelodau’r teulu lle’r oedd Lewis Bennett wedi trafod eu problemau ariannol a’u perthynas.

Pe bai Isabella Hellmann yn cael ei thybio fel person sydd wedi marw, byddai Lewis Bennett yn etifeddu ei heiddo. Mae’r erlynwyr yn dadlau y gallai hi fod wedi darganfod ei dwyll, ac mai dyna pam iddo ei lladd.

Mae e eisoes dan glo am smyglo’r darnau arian, ac fe fydd yn mynd gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio’i wraig ym mis Rhagfyr.