Mae chwaraewr amryddawn tîm criced Lloegr, Moeen Ali wedi cyhuddo Awstraliad dienw o hiliaeth yn ystod gêm yng Nghaerdydd yn 2015.

Yn ôl Moeen Ali, fe gafodd ei alw’n ‘Osama’ [bin Laden] yn ystod y gêm brawf yng Nghyfres y Lludw yn 2015, y tro cyntaf iddo chwarae yn y gyfres.

Sgoriodd e 77 a chipio pum wiced yn y gêm dan sylw, wrth i Loegr ennill y prawf cyntaf.

Mae’n honni yn ei hunangofiant i’r sarhad ddigwydd ar y cae.

Disgrifio’r digwyddiad

Yn ei hunangofiant, dywed Moeen Ali, “Fe wnaeth chwaraewr Awstralia droi ata’i ar y cae a dweud, “Cymer hwnna, Osama”. Allwn i ddim credu’r hyn ro’n i wedi’i glywed.

“Dw i’n cofio troi’n goch iawn. Dw i erioed wedi bod mor grac ar gae criced.”

Yn ôl prif hyfforddwr Awstralia ar y pryd, Darren Lehmann, fe wnaeth yr Awstraliad wadu’r sarhad pan gafodd ei holi am y digwyddiad.

Dywedodd Moeen Ali fod y chwaraewr wedi gwadu’r honiadau unwaith eto wrth siarad â fe ar ddiwedd y gyfres, gan ddweud bod ganddo fe “ffrindiau Mwslemaidd” a bod rhai o’i “ffrindiau gorau’n Fwslemiaid”.

Dywed Criced Awstralia eu bod yn cymryd yr honiadau’n “ddifrifol iawn” ac yn ceisio eglurhad gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).