Mae nifer o swyddogion carchar yng Nghymru a Lloegr wedi cychwyn ar gyfnod o brotestio, wrth iddyn nhw alw am fwy o ddiogelwch i staff mewn carchardai.

Mae undeb y POA, sy’n cynrychioli swyddogion carchar, yn dweud y bydd eu haelodau yn protestio y tu allan i’w gweithle o 7yb heddiw (Medi 14) hyd nes y byddan nhw’n derbyn cyfarwyddyd pellach.

Daw’r brotest yn dilyn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Iau, 13 Medi) gan y Brif Arolygydd Carchardai, Peter Clarke, a nododd fod “diffyg rheolaeth” yng ngharchar Bedford yn Lloegr.

Yn ôl yr adroddiad, mae safonau wedi gostwng yn sylweddol yn y carchar wrth i garcharorion gymryd rheolaeth a llygod rhedeg yn rhydd o amgylch y lle.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y POA, Steve Gillan, yn galw ar Lywodraeth Prydain a’r Gwasanaeth Carchardai a Phrofiannaeth (HMPPS) i weithredu, wedi iddyn nhw adael i safonau iechyd a diogelwch ddirywio dros y chwe blynedd ddiwetha’, medden nhw.

Mae hefyd yn dweud bod angen codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynglŷn â’r cynnydd mewn trais yn erbyn swyddogion carchar, problemau cyffuriau a hunan-niweidio.