Mae Arlywydd Rwsia yn wfftio’r amheuon bod dau o’i ddinasyddion yn gyfrifol am ymosodiad wenwyn yn Lloegr.

Mae’r heddlu’n amau mai Alexander Petrov a Ruslan Boshirov sy’n gyfrifol am yr ymosodiad yn Salisbury ym mis Mawrth eleni. A’r wythnos ddiwetha’, fe ddatgelon nhw fod y pâr yn aelodau o’r GRU – gwasanaeth cudd-wybodaeth milwrol Rwsia.

Ond mae Vladimir Putin yn gwadu hyn gan fynnu a bod ei swyddogion yn “gwybod pwy ydyn nhw”.

Mae’r Arlywydd hefyd wedi dweud nad ydyn nhw’n droseddwyr, a bellach mae’r ddau ddyn wedi ymddangos ar y teledu i siarad “am eu hunain”.

Y cefndir

Aeth y cyn-swyddog GRU, Sergei Skripal, a’i ferch Yulia, yn ddifrifol sâl ar ôl cael eu gwenwyno gan Novichok yn Salisbury.

Mae’r ymosodiad hwn hefyd wedi cael ei gysylltu ag achos o wenwyno yn Amesbury pan gafodd cwpwl, Dawn Sturgess a Charlie Rowley, eu gwenwyno â’r un cemegyn.

Bu farw Dawn Sturgess yn yr ysbyty, wythnos yn unig ar ôl i’r iddi hi a’i phartner fynd yn sâl ym mis Gorffennaf.

Mae’r heddlu’n credu mai enwau ffug yw Alexander Petrov a Ruslan Boshirov.