Fe fydd y gronfa arian sy’n talu am y gwaith o chwilio am y ferch fach, Madeleine McCann, yn wag cyn diwedd y mis… ac mae hynny wedi ennyn ar drafodaeth ynglyn â dyfodol yr ymgyrch i ddod o hyd iddi.

Tair oed oedd y ferch pan gafodd ei gweld y tro diwetha’ tra ar wyliau gyda’i rhieni yn Portiwgal ym mis Mai, 2007.

Fe gafodd ymgyrch dan yr enw ‘Operation Grange’ ei sefydlu gan heddlu Scotland Yard yn 2013, wedi i ymchwiliad yn Portiwgal fethu â chael at y gwir am ei diflaniad.

Ym mis Mawrth eleni, fe glywodd ditectifs eu bod nhw’n cael £150,000 yn ychwanegol er mwyn cario ymlaen â’r gwaith tan ddiwedd y mis hwn (Medi).

Mae llefarydd ar ran Heddlu’r Met yn dweud eu bod nhw “mewn deialog gyda’r Swyddfa Gartref” ar hyn o bryd ynglyn â sut y mae talu am fwy o waith ar yr achod.

Mae ‘Operation Grange’ wedi costio £11.6m hyd yn hyn.