Mae Torïaid sy’n gwrthwynebu cynlluniau Brexit y Prif Weinidog wedi cwrdd er mwyn trafod sut i gael gwared arni.

Roedd 50 Aelod Seneddol yn rhan o gyfarfod y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG) – a disodli Theresa May oedd y prif bwnc trafod, yn ôl adroddiadau.  

Dan reolau’r Ceidwadwyr, os oes 48 llythyr yn cael eu hanfon at y Pwyllgor 1922, mae modd cynnal pleidlais o ddiffyg hyder.

Yn ystod cyfarfod yr ERG, dywedodd sawl un ei fod eisoes wedi anfon llythyr at y pwyllgor.

Pwysau

Mae Theresa May yn wynebu pwysau cynyddol o gyfeiriadau eraill hefyd, a hyd yma mae sawl Aelod Seneddol Torïaidd wedi cyfleu eu hanfodlonrwydd yn gyhoeddus.

Dylai’r Prif Weinidog “daflu ei chynlluniau o’r neilltu” yn ôl yr Aelod Seneddol, Andrew Bridgen; ac yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, mae busnesau yn wynebu “sefyllfa llawer gwaith na’r un sydd ohoni”.