Mae Canghellor y Trysorlys wedi cadarnhau y bydd Mark Carney yn parhau’n Llywodraethwr ar Fanc Lloegr tan Ionawr 2020.

Yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth (Medi 11) dywedodd Philip Hammond bod y gwr o Ganada wedi cytuno “er gwaetha pwysau personol” i gamu o’r neilltu ym mis Mehefin 2019.

Petasai’r gŵr o Ganada wedi glynu wrth ei benderfyniad gwreiddiol i adael bryd hynny, mi fyddai’r swydd wedi dod yn wag tri mis wedi Brexit.  

Byddai hynny yn ei dro wedi arwain at berson newydd, llai profiadol o bosib, yn camu i’r adwy i ddelio â heriau’r ymadawiad.

Mae rhai yn tybio bod y Llywodraethwr wedi cael ei annog i aros yn hirach oherwydd y posibiliad hynny.

“Brexit llyfn”

“Dw i’n cydnabod ei bod yn bwysig yn ystod y cyfnod hollbwysig yma bod pawb yn gwneud popeth y gallan nhw i gefnogi Brexit llyfn a llwyddiannus,” meddai Mark Carney

“O ganlyniad i hynny, dw i’n fodlon gwneud unrhyw beth y gallaf i wneud er mwyn hybu Brexit llwyddiannus … Felly gallaf gadarnhau fy mod yn hapus i ymestyn fy nghyfnod.”