Mae saith o bobol wedi cael eu hanafu mewn ymosodiad â chyllell ym Mharis – a dau o bobol o wledydd Prydain yn eu plith.

Mae lle i gredu bod dyn â chyllell a darn o fetel wedi ymosod ar bobol ger camlas yng ngogledd-ddwyrain y ddinas toc ar ôl 11 o’r gloch nos Sul (9 Medi).

Cafodd pedwar o bobol anafiadau difrifol. Yn ôl Le Parisien, mae un o’r ddau o wledydd Prydain wedi cael anafiadau i’r frest, a’r llall wedi’i drywanu yn ei ben.

Mae lle i gredu bod tri o bobol wedi’u trywanu ger sinema a bod rhai oedd yn chwarae petanque yn yr ardal wedi ceisio atal yr ymosodiad drwy daflu pêl at y dyn arfog.

Yn ôl adroddiadau, mae dyn sy’n hanu o Afghanistan wedi cael ei arestio, ond dydy’r ymosodiad ddim yn cael ei drin fel un brawychol.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod nhw’n cydweithio ag awdurdodau Ffrainc ar hyn o bryd.