Mae’r Diwrnod 999 cyntaf erioed yn cael ei gynnal yng ngwledydd Prydain heddiw (dydd Sul, Medi 9).

Dechreuodd y diwrnod yn swyddogol am 9 o’r gloch fore heddiw (ar 09/09) – nawfed awr nawfed diwrnod y nawfed mis.

Mae’r diwrnod wedi cael sêl bendith Prif Weinidog Prydain, Theresa May wrth i elusen Cofeb Genedlaethol y Gwasanaethau Brys geisio codi £2m i adeiladu cofeb barhaol i’r gwasanaethau brys.

Mae Theresa May wedi diolch i’r gwasanaethau brys am fynd “y tu hwnt i’r galw bob dydd i helpu i achub bywydau a’n cadw ni’n ddiogel”.

Mae’r hashnod #999DayUK wedi bod yn trendio ar y gwefannau cymdeithasol heddiw.