Mae Comisiynydd Ewropeaidd Iwerddon wedi ymosod yn hallt ar “ymddygiad gwirion” aelodau o’r Blaid Geidwadol sy’n llesteirio’r trafodaethau rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Phil Hogan, Comisiynydd Amaeth yr UE, a chynrychiolydd Iwerddon ar y Comisiwn, mae Theresa May yn cael ei harwain gan “Three Stooges” – sef Boris Johnson, Jacob Rees-Mogg a Nigel Farage.

“Dros ddwy flynedd wedi’r refferendwm, mae’r Deyrnas Unedig yn dal mewn picl,” meddai Phil Hogan mewn araith yn Ysgol Haf Kennedy yn Iwerddon.

“Mae’r Deyrnas Unedig yn gaeth mewn cylch parhaus o ymddygiad gwirion.

“Bob tro mae Theresa May yn cynnig rhywbeth i drafod gyda Brwsel, mae’r carfannau yn ei phlaid ei hun yn ei rhwystro.

“Yr hyn mae Mr Johnson a Mr Rees-Mogg yn ei ddweud mewn gwirionedd yw ‘Brif Weinidog, rhaid i chi drafod Brexit gyda ni’.

“Mae hyn yn arwain at wleidyddiaeth abswrdaidd.”

Dim cytundeb

Os na fydd mwy o gyfaddawdu ar ran Prydain ni fydd cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd cyn mis Mawrth nesaf, rhybuddia.

“Fe fyddwn ni wedyn yn dod yn ôl wedyn at y trefniant wrth gefn ar gyfer ffin Iwerddon,” meddai.

“Mae cynnal ffin anweledig yn hanfodol i heddwch yn Iwerddon, a rhaid i Theresa May beidio â gwrando ar y tri stooge, oherwydd dydyn nhw’n deall dim am y sefyllfa.”