Mae unigolyn wedi cael ei arestio ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau o ymosodiad â chyllell yng nghanol tref Barnsley yn Swydd Efrog.

Cafodd yr heddlu eu galw am 8.20 y bore yma i ymateb i adroddiadau fod dyn wedi cael ei drywanu.

Dywedodd yr heddlu fod y dyn wedi dioddef mân anafiadau.

“Mae ymchwiliad bellach ar droed i geisio darganfod ai digwyddiad ar ei ben ei hun oedd hwn ac a oedd yr unigolyn yn gweithredu ar ei ben ei hun,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Swydd Efrog.

Dywedodd fod presenoldeb yr heddlu’n amlwg yng nghanol y dref, a bod y cyhoedd yn cael ei rhybuddio i fod yn wyliadwrus ac i riportio unrhyw beth amheus.