Fe fydd Jeremy Corbyn wedi bradychu gwerthoedd ei blaid os na fydd yn dangos mwy o barodrwydd i ymladd yn erbyn Brexit, yn ôl un o wleidyddion amlwg Llafur.

Dywed yr AS Chuka Umunna fod y dadleuon sy’n gysylltiedig â Brexit wedi “normaleiddio casineb” ac mai pobl ddu ac o leiafrifoedd ethnig sydd “wedi talu’r pris”.

Gan alw ar Jeremy Corbyn i gefnogi refferendwm ar gytundeb terfynol Brexit, meddai:

“Byddai’n frad llwyr ar werthoedd ein plaid i Jeremy Corbyn weithredu fel sylwebydd di-hid a derbyn yn ddifater y Brexit trychinebus sydd o’n blaenau.”

Mae hefyd yn galw ar Jeremy Corbyn i rwystro elfennau eithafol asgell chwith Llafur rhag targedu Aelodau Seneddol mwy cymedrol ar gyfer ceisio’u diswyddo.

“Mae’n hen bryd iddo roi’r gorau i ddefnyddio rhaniadau mewnol fel esgus i beidio ag ymladd Brexit,” meddai Chuka Umunna.

“Mae’n rhaid iddo fwrw iddi i wneud yr hyn mae fy etholaeth i, un o’r cymunedau mwyaf amrywiol yn y wlad, yn mynnu ei bod yn ei wneud – sef ymladd y Brexit Torïaidd yn ddiamwys.”