Bydd swyddogion o’r Deyrnas Unedig a Rwsia yn dod wyneb yn wyneb mewn cyfarfod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig heddiw (dydd Iau, Medi 6).

Bydd y cyngor yn trafod yr ymosodiad a fu yn Salisbury ym mis Mawrth, ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, gyhoeddi ddoe bod dau asiant o Rwsia yn cael eu hamau o fod yn gyfrifol amdano.

Mae’r heddlu ac erlynwyr yn dweud bod yna ddigon o dystiolaeth i arestio’r ddau, sef Alexander Petrov a Ruslan Boshirov.

Mewn anerchiad yn San Steffan ddoe, er na wnaeth Theresa May gyhuddo Vladimir Putin o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad ar Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, fe ddywedodd fod y digwyddiad wedi cael ei gymeradwyo ar “lefel uchel” o’i lywodraeth.

Bydd Llywodraeth Prydain yn cynnig diweddariad i aelodau’r Cyngor Diogelwch ar yr ymosodiad, ac mae disgwyl i swyddogion o Rwsia fod yn bresennol yn y cyfarfod.

Mae Rwsia yn parhau i wadu unrhyw gyfrifoldeb am yr ymosodiad ar Fawrth 4, gyda llysgenhadaeth y wlad yn y Deyrnas Unedig yn cyhuddo Llywodraeth Prydain o beidio â chydweithio â nhw.