Dylem groesawu ‘deallusrwydd artiffisial’ (AI) oherwydd bod ganddo’r potensial i drawsnewid ein bywydau yn fwy nag y mae’r rhyngrwyd wedi gwneud.

Dyna fydd yr Athro, Jim Al-Khalili, yn ei ddweud wrth annerch yr Ŵyl Wyddoniaeth Brydeinig yn Hull yr wythnos nesa’.

Mae’r academydd hefyd yn pryderu am ymateb y cyhoedd i’r dechnoleg, a’n ofni y gallwn golli cyfle i fanteisio arno.

“Mae yna berygl go iawn y gallai’r cyhoedd ymateb yn negyddol i AI, yn debyg i’r ffordd y bu ymateb i ddeunydd sydd wedi’u haddasu ar lefel genetig [GM],” meddai.

“Os na fydd y cyhoedd yn poeni amdano, fydd arweinwyr ddim yn ei drin yn flaenoriaeth. Rhaid gosod rheolau, a dw i’n pryderu y daw’r rhain yn rhy hwyr.

“Ar y lleiaf bydd hyn yn golygu nad yw’r dechnoleg yma yn gwireddu ei botensial yn y sector gyhoeddus. Gallai hyn arwain at ragor o anghydraddoldeb o fewn cymdeithas.”

Beth yw AI?

‘AI’ yw gallu peiriannau a meddalwedd cyfrifiadurol i feddwl drostyn nhw’u hunain.

Mae eu gallu i ddysgu a mynd i’r afael – ar ei liwt eu hunain – â phroblemau, yn enghreifftiau o’r deallusrwydd arbennig yma.