Mae’r heddlu wedi datgelu enwau dau ddyn y maen nhw’n amau o fod wedi cyflawni’r ymosodiad gwenwynig yn Salisbury.

Bellach, meddai’r awdurdodau, mae yna ddigon o dystiolaeth yn erbyn Alexander Petrov a Ruslan Boshirov, i’w cyhuddo o gynllwynio i lofruddio Sergei Skripal, ac o geisio llofruddio ei ferch Yulia, yn ôl awdurdodau.

Mae’r ddau ddyn yn tua 40 blwydd oed, meddai’r heddlu, ac mae’n debygol mai enwau ffug yw Petrov a Boshirov.

Fydd ‘na ddim cais yn cael ei anfon at Rwsia er mwyn estraddodi’r dynion, ond mae Gwarant Arestio Ewropeaidd wedi dod i rym.

Y cefndir

Cafodd y cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal a’i ferch Yulia ei gwenwyno ym mis Mawrth gan y cemegyn Novichok.

Mae ditectifs yn credu bod y deunydd wedi ei osod ar ddrws tŷ’r gŵr ar Fawrth 4, ac mae tystiolaeth fideo yn dangos y ddau ddyn ger y cartref ar y dyddiad yna.

Deuddydd ar ôl iddyn nhw gyrraedd y Deyrnas Unedig, mi ddychwelodd y ddau ddyn i Rwsia.

Ail achos

Llai na phedwar mis yn dilyn yr ymosodiad, fe ddigwyddodd achos tebyg yn Amesbury – pentref sydd llai na 10 milltir i ffwrdd o Salisbury.

Aeth Dawn Sturgess, 44, partner Charlie Rowley, 48, yn sâl ar ôl dod ar draws Novichok yn ddiarwybod, a bu farw’r ddynes yn yr ysbyty ym mis Gorffennaf.

Dydy’r awdurdodau ddim yn credu bod y ddau ddyn o Rwsia wedi dychwelyd i wledydd Prydain, a dydyn nhw ddim yn credu bod y cwpwl wedi eu targedu’n fwriadol.

Cafodd Dawn Sturgess a Charlie Rowley eu heffeithio, oherwydd cafodd y Novichok ei waredu mewn modd blêr, yn ôl yr heddlu.