Yr “agenda o ddad-reoleiddio” gwasanaethau cyhoeddus sydd yn rhannol gyfrifol am drychineb Tŵr Grenfell, yn ôl undeb diffoddwyr tân.

Mae’r Undeb Brigadau Tân hefyd yn honni bod rhybuddion am gladin yr adeilad wedi cael eu “hanwybyddu”, ac felly gallai trychineb tebyg ddigwydd eto.

Bydd yr undeb yn cyhoeddi adroddiad, Cefndir yr Erchyllter, sy’n amlinellu’r canfyddiadau ddydd Mercher (Medi 5).

Atebol

“Rydym eisiau sicrhau bod gweinidogion ym mhrif rengoedd y Llywodraeth yn cael ei dal yn atebol,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Matt Wrack.

“Llywodraeth ganolog sydd wedi creu’r gyfundrefn rheoleiddio tros gartrefi a diogelwch tân. Felly nhw ddylai gael eu dal yn atebol am unrhyw fethiannau o fewn y gyfundrefn.

“Ddylwn ni beidio â beio cyrff eraill, heb feio Whitehall.”