Mae Downing Street wedi beirniadu’r cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, am beidio â chynnig “unrhyw syniadau newydd” am Brexit.
Mae llefarydd ar ran y Prif Weinidog, hefyd wedi dweud bod angen arweinyddiaeth ar y Deyrnas Unedig “sydd o ddifri”, ac wedi mynnu bod Theresa May yn cynnig hynny.
Daw’r sylwadau wedi i Boris Johnson ymosod ar strategaeth Brexit Theresa May yn ei golofn yn y Daily Telegraph gan ei chyhuddo o “chwifio fflag wen” mewn trafodaethau ag Ewrop.
“Ymddiswyddodd Boris Johnson tros [gynlluniau Brexit] Chequers,” meddai’r llefarydd. “Dyw’r erthygl ddim yn cynnig unrhyw syniadau newydd, felly does dim modd ymateb.
“Arweinyddiaeth sydd o ddifri, gyda chynlluniau sydd o ddifrif – dyna beth sydd angen arnom. A dyna’n union beth mae’r Prif Weinidog a’i chynllun Brexit yn cynnig,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.