Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Sajid Javid, wedi rhybuddio cwmnïau mawr y we y gallan nhw wynebu cyfreithiau newydd os nad ydyn nhw’n gweithredu yn erbyn camdriniaeth plant ar-lein.

Mae Sajid Javid wedi galw ar gwmnïau fel Facebook, Microsoft, Google a Twitter i drin camdriniaeth plant yr un fath â deunydd brawychol trwy ei hatal ar unwaith, gan ddweud ei fod wedi ei “synnu” gan faint y broblem.

Mae hefyd am weld mwy o gydweithio rhwng y cwmnïau a’r awdurdodau, gan eu hannog i rannu gwybodaeth ymysg ei gilydd ynghylch y ffordd orau o fynd i’r afael â chamdriniaeth ar-lein.

‘Rhaid gweithredu’

“Yn y blynyddoedd diwetha’, mae yna waith da wedi cael ei wneud yn y maes,” meddai Sajid Javid.

“Ond y realiti yw bod y bygythiad wedi esblygu yn gyflymach nag ymateb y diwydiant a dyw’r diwydiant ddim wedi dal i fyny.

“Dydw i ddim yn gofyn am newid yn unig, dw i’n galw amdano.

“Os nad yw cwmnïau technolegol yn cyflwyno mwy o fesurau i gael gwared ar y math hwn o ddeunydd, yna fydda’i ddim yn ofni gweithredu.

“Mae sgop ein deddfu yn ddibynnol ar ymddygiad a gweithredu’r diwydiant.”

Mwy yn cael eu cam-drin

Daw sylwadau’r Ysgrifennydd Cartref wrth i ffigyrau ddangos bod tua 80,000 o bobol yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried yn “fygythiad rhywiol i blant ar-lein.”

Mae ystadegau hefyd yn datgelu bod cynnydd o 700% wedi bod yn nifer yr adroddiadau i’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol (NCA) am ddelweddau o blant yn cael eu cam-drin, yn ystod y pum mlynedd ddiwetha’.

Mae’r delweddau, meddai’r Swyddfa Gartref, yn cynnwys mwy o achosion o fabis a phlant o dan 10 oed yn cael eu cam-drin.