Mae tua 80,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hystyried “yn fygythiad rhywiol i blant ar-lein”, mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi datgelu.
Fe fydd Sajid Javid yn datgelu’r ffigurau ac yn disgrifio ei sioc o ddarganfod maint y broblem gan bedoffiliaid ar-lein, mewn araith heddiw.
Mae disgwyl iddo amlinellu ei “ymgyrch bersonol” i fynd i’r afael a cham-drin plant yn ei holl ffurfiau, yn ei araith heddiw (dydd Llun, 3 Medi).
Fe fydd yn dweud mai ymweliad ag uned yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) oedd wedi gwneud iddo sylweddoli gwir faint y broblem.
Mae ystadegau newydd hefyd yn datgelu bod cynnydd o 700% wedi bod yn nifer yr adroddiadau i’r NCA am ddelweddau o blant yn cael eu cam-drin yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.
Yn ôl y Swyddfa Gartref mae’r delweddau yn cynnwys mwy o achosion o fabis a phlant o dan 10 oed yn cael eu cam-drin.
Mae maint y broblem wedi arwain at alwadau ar gwmnïau rhyngrwyd i wneud mwy i geisio atal mynediad at ddelweddau a fideos o gam-drin rhywiol ar-lein.