Mae arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson wedi galw ar Brif Weinidog y wlad, Nicola Sturgeon i gefnu ar gynlluniau i gynnal ail refferendwm annibyniaeth.

Bydd Nicola Sturgeon yn cyhoeddi ei rhaglen lywodraeth yn Holyrood ddydd Mawrth, ac mae disgwyl iddi gyflwyno 12 darn o ddeddfwriaeth dros y flwyddyn nesaf i “wella cyfoeth a lles cymunedau ar draws yr Alban”.

Ymhlith ei chynlluniau mae dirwyn ceir petrol a diesel i ben erbyn 2032 – wyth mlynedd cyn Llywodraeth Prydain.

Ond mae Ruth Davidson wedi galw ar Nicola Sturgeon a’r SNP i “ddechrau o’r dechrau” ac wfftio’i hawgrym blaenorol y gallai ail refferendwm annibyniaeth gael ei gyhoeddi yn yr hydref pan fydd y wlad yn gwybod mwy am gynlluniau Brexit Llywodraeth Prydain.

Wfftio

Mewn erthygl yn y Mail on Sunday yn yr Alban, dywedodd Ruth Davidson y dylai Nicola Sturgeon achub ar y cyfle ddydd Mawrth i wfftio ail refferendwm.

“Dyma y dylai hi ei ddweud ddydd Mawrth. Yn gyntaf, rhoi terfyn ar yr ansicrwydd.”

Dywedodd fod pobol “wedi cael digon” o safbwynt yr SNP ar annibyniaeth.

“Dylai hi ddweud ar ddechrau ei haraith nad oes rheswm dros aros am y diweddariad mae hi wedi ei addo ym mis Hydref – fod refferendwm annibyniaeth oddi ar y bwrdd ac y bydd hi’n canolbwyntio yn ystod gweddill y senedd hon ar un swydd, sef llywodraethu’r Alban.

“Fe wnaeth pobol egluro yn ystod yr etholiad cyffredinol y llynedd eu bod nhw am iddi roi’r gorau iddi. Am unwaith, dylai hi ddangos ei bod hi’n gwrando, a gweithredu.”

Brexit

Ond mae Nicola Sturgeon yn mynnu bod Brexit wedi rhoi pobol yr Alban mewn sefyllfa nad oedden nhw am fod ynddi.

“Doedd pobol yr Alban ddim eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ond yn ystod y flwyddyn seneddol hon, rydym ar fin cael ein tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn erbyn ein hewyllys – gydag ansicrwydd cynyddol ynghylch ein perthynas yn y dyfodol gyda bloc masnachu mwya’r byd, sydd oddeutu wyth gwaith yn fwy na marchnad y DU ar ei phen ei hun.

“Yn wyneb yr ansicrwydd, rhaid i ni gynyddu ein ffocws ar wella cyfoeth a lles cymunedau ar draws yr Alban wrth barhau i ddadlau dros gamau synhwyrol tuag at Brexit – sef, parhau i fod yn aelod o’r farchnad sengl a’r undeb tollau.”