Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May wedi dweud y byddai cynnal ail refferendwm Brexit yn “bradychu” pleidleiswyr.

Daeth ei sylwadau mewn erthygl yn y Sunday Telegraph.

“Byddai gofyn y cwestiwn unwaith eto’n dipyn o frad ar ein democratiaeth,” meddai.

Ac mi ddywedodd hefyd y byddai Prydain yn dod i ben pe na bai cytundeb yn bosibl ar ddiwedd trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd.

Yn wir, dywedodd y gallai Prydain “ffynnu” o dan amgylchiadau o’r fath.

Yn ôl erthygl yn y Sunday Times, mae swyddogion y Prif Weinidog wedi cynnal trafodaethau â gweision sifil er mwyn darganfod a fyddai’n bosibl cynnal etholiad cyffredinol pe bai aelodau seneddol yn gwrthod yr argymhellion ar gyfer cytundeb ar Brexit.