Mae ymgyrch dorfol i godi arian i dalu costau cyfreithiol Alex Salmond mewn achos yn erbyn Llywodraeth yr Alban wedi cael ei hatal.

Roedd £100,000 eisoes wedi cael ei godi wrth i gyn-Brif Weinidog yr Alban frwydro yn erbyn honiadau am ei ymddygiad rhywiol.

Mae e bellach wedi gadael yr SNP yn sgil yr honiadau a’r ffordd y mae’r blaid wedi ymdrin â’r achos.

‘Diolch’

Dywedodd nad yw’r wefan bellach yn casglu arian ar ôl codi dwywaith y nod.

“Diolch yn fawr i’r miloedd o bobol sydd wedi dod ymlaen gyda chefnogaeth,” meddai Alex Salmond. “Byddwn ni bellach yn bwrw ati gyda’r her yn erbyn cyfreithlondeb y drefn.

“Bydd yr holl arian yn cael ei ddefnyddio’n unswydd i gefnogi’r adolygiad barnwrol.”

Dywedodd y byddai unrhyw arian dros ben ar ôl yr achos yn cael ei roi i achosion da yn yr Alban “a thu hwnt”.