Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Vince Cable wedi dweud y byddai’n barod i arwain y blaid mewn etholiad cyffredinol pe bai’n cael ei gynnal “yn y dyfodol agos”.

Fe fydd yn amlinellu ei weledigaeth ar gyfer y blaid mewn araith yr wythnos nesaf, ond mae dyfalu y gallai roi’r gorau i’r arweinyddiaeth cyn yr etholiad cyffredinol nesaf yn 2022.

Ond fe ddywedodd wrth raglen Today ar Radio 4 nad yw’n bwriadu “camu o’r neilltu”, ac y byddai’n barod i arwain y blaid mewn etholiad cyffredinol “pe bai yna etholiad cyffredinol yn y dyfodol agos”.

Ond wnaeth e ddim ymhelaethau ar y tymor hir, gan ddweud y byddai’n gwneud datganiad yr wythnos nesaf.

Yr arweinydd nesaf

Dywedodd Vince Cable fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn trafod a fydd angen i’r arweinydd nesaf fod yn un o Aelodau Seneddol y blaid.

Ond fe ddywedodd fod yna “atyniadau a phroblemau” gyda’r awgrym, a bod angen meddwl yn “ofalus” cyn gwneud penderfyniad.