Mae Alex Salmond wedi cychwyn brwydr gyfreithiol yn erbyn Llywodraeth yr Alban.

Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban yn herio’r llywodraeth am y ffordd y maen nhw wedi delio â’r honiadau o gamymddwyn rhywiol yn ei erbyn, a hynny wedi iddyn nhw ddod i sylw’r cyhoedd yr wythnos ddiwetha’.

Mewn datganiad gan ei gwmni cyfreithiol, Levy & McRae, maen nhw’n cadarnhau bod deiseb am adolygiad barnwrol wedi’i gyflwyno i Lys y Sesiwn.

Herio

Bydd cyfreithwyr Alex Salmond yn herio Llywodraeth yr Alban a’r Ysgrifennydd Parhaol, Leslie Evans, sy’n gyfrifol am sefydlu’r broses gwynion yn Holyrood.

“Fe allwn gadarnhau fod yna ddeiseb am adolygiad barnwrol wedi’i gyflwyno am 10 y bore yma gan Mr Alex Salmond ar gynrychiolwyr cyfreithiol Llywodraeth yr Alban,” meddai’r datganiad gan gyfreithwyr Alex Salmond.

“Fe allwn hefyd gadarnhau mai’r ymatebydd cyntaf fydd yr Ysgrifennydd Parhaol, Ms Leslie Evans, a sefydlodd y drefn sy’n cael ei herio.

“Yr ail ymatebydd yw Llywodraeth yr Alban.”

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Alex Salmond yn ymwneud â dau achos o gamymddwyn rhywiol sy’n dyddio’n ôl i 2013 pan oedd yn Brif Weinidog.

Cronfa’n cyrraedd £100,000

Daw’r cadarnhad hwn gan y cyfreithiwr wrth i gronfa ar-lein a gafodd ei sefydlu gan Alex Salmond i’w helpu i dalu am gostau cyfreithiol, gyrraedd £100,000.

Mae ei ymgais i ofyn am gymorth wrth y cyhoedd wedi derbyn ychydig o feirniadaeth, gyda rhai’n annog pobol i gyfrannu arian i elusennau hawliau merched yn lle.

Mae Alex Salmond hefyd wedi ymddiswyddo o blaid yr SNP yn sgil yr honiadau.