Mae  disgwyl i’r Aelod Seneddol Frank Field gynnal trafodaethau gyda chwip y Blaid Lafur heddiw ar ôl iddo ymddiswyddo ddoe oherwydd yr hyn mae’n ei alw yn “ddiwylliant ofnadwy” y blaid.

Cyhoeddodd yr AS brynhawn ddoe (Awst 30) ei fod am ymddiswyddo o grŵp y blaid yn San Steffan, gan rybuddio bod Llafur yn troi’n “rym ar gyfer gwrth-semitiaeth”. Mae hefyd wedi beirniadu arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Mae’r AS hefyd wedi codi pryderon am agweddau bygythiol o fewn cangen Llafur ei etholaeth ym Mhenbedw, a bellach wedi anfon neges at ei etholaeth.

“Roeddwn am weld trafodaeth o fewn y Blaid Lafur, a fyddai’n cynnwys rhagor o bobol o gefndiroedd gwahanol,” meddai mewn llythyr yn y Liverpool Echo. “Ofer oedd hynny.

“Mae’r arweinyddiaeth wedi methu a gwaredu pobol gwrth-semitaidd ac mae’r blaid genedlaethol wedi gwneud dim byd, o’r hyn y gwelaf i, i sicrhau bod ei gwerthoedd yn ffynnu yn y canghennau.”

Camau nesaf

Bydd Frank Field yn trafod â phrif chwip y Blaid Lafur, Nick Brown, yn ddiweddarach ynglŷn â’i benderfyniad i gefnu ar grŵp y blaid.

Mae’n debyg bod yr Aelod Seneddol yn awyddus i aros yn aelod o’r blaid, ond i wasanaethu ei etholaeth yn aelod annibynnol. Yn ôl ffynonellau o fewn y blaid, dydy hynny ddim yn bosib.