Mae un o aelodau seneddol mwya’ blaenllaw y Blaid Lafur wedi ymddiswyddo o grŵp y blaid yn San Steffan oherwydd honiadau o fod yn wrth-Iddewig.

Mewn llythyr at brif chwip y Blaid Lafur, mae Frank Field yn nodi dau reswm penodol – ei deimlad bod y Blaid Lafur yn troi’n “rym ar gyfer gwrth-semitiaeth o fewn gwleidyddiaeth Prydain” ac agweddau ymosodol a bygythiol o fewn plaid ei etholaeth yn Birkenhead.

Ei gyhuddiad canolog mewn llythyr un tudalen o hyd oedd fod arweinwyr y blaid yn gwneud dim go-iawn i atal ei “gwerthoedd sylfaenol” rhag cael eu herydu.

“Plaid hiliol”

Fe ymosododd Frank Field yn uniongyrchol ar yr arweinydd, Jeremy Corbyn, gan ddweud fod yr helynt diweddara’ tros rai o’i sylwadau yn dod ar ôl sawl ymgais i wadu ei fod yn wrth-Iddewig.

“Fe wnaeth Prydain ymladd yr Ail Ryfel Byd er mwyn cael gwared ar y safbwyntiau hyn o’n gwleidyddiaeth, ond mae’r ymdrech fawreddog hwnnw a’i lwyddiant bellach yn cael ei ymosod arno’n fewnol,” meddai.

“Dyw’r arweinyddiaeth ddim yn gwneud dim byd cadarn i ddatrys yr erydiad hwn yn ein gwerthoedd sylfaenol.

“Mae’n dristwch i mi ein bod ni’n cael ein gweld fwyfwy fel plaid hiliol. Mae’r mater hwn ar ei ben ei hyn yn fy annog i ymddiswyddo o’r chwip.”

Cynyddu’r pwysau

Fe fydd ymddiswyddiad Frank Field, sy’n gyn-weinidog yn Llywodraeth Tony Blair, yn ychwanegu at y pwysau sydd ar Jeremy Corbyn, gyda’r cyn brif-Rabbi wedi cymharu ei sylwadau i rai hiliol Enoch Powell yn yr 1960au.

Mae Jeremy Corbyn ei hun wedi gwadu’n gyson ei fod yn wrth-Semitaidd a’i fod yn benderfynol o gael gwared ar bob hiliaeth.