Raoul Moat (llun heddlu)
Roedd calon y llofrudd, Raoul Moat, yn curo wrth iddo gael ei gludo i’r ysbyty o’r fan lle’r oedd wedi ei saethu ei hun yn ei ben.

Ond doedd y cyn weithiwr clwb nos ddim yn anadlu, meddai parafeddyg yn y cwest i’w farwolaeth ym mis Gorffennaf y llynedd.

Roedd ef a staff meddygol eraill wedi parhau i geisio adfer y dyn 37 oed ar y daith o Rothbury yn Northumberland i Ysbyty Newcastle.

Ond, yn ôl y parafeddyg, doedd dim posibilrwydd do gwbl y byddai Raoul Moat wedi gallu byw trwy’r anafiadau ac fe fu farw’n fuan wedyn.

Heddlu wedi’i gornelu

Fe ddigwyddodd y saethu yn y dref fechan wledig ar ôl i’r heddlu gornelu Moat wedi dyddiau o chwilio.

Roedd wedi lladd partner newydd ei gyn gariad ac wedi saethu plismon yn ei wyneb cyn dianc i Rothbury lle bu’n cadw’r heddlu draw am chwech awr.

Roedd yr heddlu wedi saethu gwn Taser pwerus at Moat yn union cyn iddo’i saethu ei hun.