Mae prif weinidog Prydain, Theresa May wedi galw ar Jeremy Corbyn i ymateb i honiadau gan gyn-brif rabbi ei fod e’n wrth-Semitaidd.

Mae’r Arglwydd Jonathan Sachs wedi cymharu sylwadau arweinydd y Blaid Lafur ag araith ymfflamychol Enoch Powell am Seioniaid. Daw ei sylwadau ar ôl i fideo ymddangos lle mae Jeremy Corbyn yn lladd ar Seioniaid Prydeinig oedd wedi beirniadu llysgennad Palesteina Manuel Hassassian.

Dywedodd Theresa May mai “hiliaeth yw gwrth-Semitiaeth” ac y dylid “condemnio hiliaeth o bob math”.

Ychwanegodd fod “angen i arweinydd y Blaid Lafur ymateb i’r pryderon hynny”.

Ymateb Llafur i’r sylwadau

Mae sylwadau’r Arglwydd Sachs wedi ennyn ymateb chwyrn gan y Blaid Lafur, ar ôl iddo ddweud bod Jeremy Corbyn wedi cefnogi “pobol hiliol, brawychwyr, a phobol sy’n lledu casineb”.

Dywedodd wrth y New Statesman: “Y sylwadau gan Jeremy Corbyn a gafodd eu datgelu’n ddiweddar yw’r datganiad mwyaf sarhaus gan un o brif wleidyddion Prydain ers araith ‘afonydd gwaed’ Enoch Powell yn 1968.”

Maen nhw’n dweud bod ei sylwadau’n “abswrd a sarhaus”, a’i fod e wedi defnyddio’r gair “Seioniaid” yn y cyd-destun cywir ac nid fel modd o ladd ar Iddewon.