Mae pennaeth cwmni gwyliau Thomas Cook wedi teithio i’r Aifft i gyfarfod â phrif weinidog y wlad i drafod marwolaeth gŵr a gwraig o Loegr.

Roedd John a Susan Cooper o Swydd Gaerhirfryn ar eu gwyliau mewn gwesty ar y Môr Coch pan gawson nhw eu taro’n wael.

Fe fydd Peter Fankhauser yn cyfarfod â Mostafa Madbouly i drafod y digwyddiad a’r ymchwiliad sydd ar y gweill, ac fe ddywedodd eisoes nad oes yna dystiolaeth i awgrymu beth oedd achos eu marwolaeth.

Mae’r cwmni’n gobeithio cael caniatâd yr awdurdodau i gael mynediad i’r ystafell lle’r oedden nhw’n aros yng ngwesty Steigenberger Aqua Magic.

Y cefndir

Bu farw John Cooper yn y gwesty, tra bod ei wraig Susan wedi marw yn yr ysbyty’n ddiweddarach. Yn ôl eu merch, roedd rhywbeth “amheus” am y digwyddiad ac roedden nhw’n “berffaith iach” cyn teithio i’r wlad.

Cafodd 300 o bobol eu symud o’r gwesty 24 awr ar ôl i’r cwpl gael eu taro’n wael, a hynny’n dilyn “nifer sylweddol” o bobol yn cael eu taro’n wael yno.

Mae 13 o bobol wedi dioddef o effeithiau gwenwyn bwyd, ond does neb mewn cyflwr difrifol.

Mae disgwyl canlyniadau profion yr wythnos nesaf.