Mae swyddogion tân a heddlu’r archwilio gweddillion adeilad hanesyddol yng nghanol Belffast ar ôl iddo gael ei losgi’n ulw.

Mae pump llawr siop Primark ynghanol y ddinas wedi chwalu’n llwyr yn y tân a gynheuodd yno tua 11 fore ddoe.

Ar un adeg, roedd fflamau 50 troedfedd o uchder i’w gweld ar draws y ddinas.

Gobeithio achub y talcen blaen

Mae rhan o ganol Belffast yn parhau ynghau wrth i’r swyddogion geisio penderfynu a yw’r talcen blaen yn ddiogel ai peidio.

Mae’r adeilad wedi bod yn rhan amlwg o ganol Belffast ers tua 230 o flynyddoedd a’r gobaith yw y bydd hi’n bosib achub y talcen.

Mae 300 o staff yn gweithio yno ac, yn ôl Primark, fe fyddan nhw’n cael pob gofal.