Fe fyddai cytundeb Brexit gwael yn peryglu gofal i gleifion mewn ysbytai, meddai Coleg Brenhinol y Nyrsys.
Maen nhw wedi sgrifennu at arweinydd pob plaid yn tynnu sylw at eu pryderon, sy’n cynnwys bygythiadau i hawliau gweithwyr a llai o rannu gwybodaeth a sgiliau tros ffiniau.
Fe fyddai bargen wael yn golygu “bygythiad ar unwaith i ddarparu gofal diogel ac effeithiol”, meddai’r llythyr.
Mae Llywodraeth Prydain wedi ymateb trwy ddweud eu bod yn paratoi ar gyfer pob posibilrwydd er mwyn sicrhau y bydd cleifion yn cael yr un safon o wasanaeth ag ar hyn o bryd.