Mae aelodau o staff a chwsmeriaid wedi gorfod cael eu cludo i ddiogelwch ar ôl i dân gychwyn mewn siop Primark yng nghanol dinas Belfast.

Fe gychwynnodd y tân yn yr adeilad pum llaw am tua 11yb heddiw (dydd Mawrth, Awst 28).

Mae lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos cwmwl mawr o fwg a fflamau yn codi o’r adeilad hanesyddol, a gafodd ei adnewyddu yn ddiweddar.

Mae’r gwasanaethau brys yn cynghori pobol i gadw draw o’r ardal, ac mae traffig wedi cael ei ddargyfeirio i ffyrdd eraill yng nghanol y ddinas.

Does dim manylion eto ynglŷn â sut cychwynnodd y tân ac os yw unrhyw un wedi cael eu hanafu.