Mae Alex Salmond wedi ysgrifennu at brif was sifil yr Alban, yn galw am ymchwiliad i sut y cafodd honiadau yn ei erbyn am aflonyddu rhywiol eu datgelu i’r cyhoedd.

Dywed y cyn brif weinidog fod rhywun o fewn llywodraeth yr Alban wedi torri’r cod ymddygiad ar gyfer ymdrin â chwynion drwy ryddhau manylion i bapur newydd y Daily Record.

Mae’n gwadu’r honiadau ac wedi cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y llywodraeth am y ffordd mae wedi ymdrin â’r ymchwiliad.

Meddai mewn datganiad:

“Mae cyfrinachedd ar faterion o’r fath yn gwbl allweddol i’r rhai sy’n cwyno ac i’r rheini y cwynir yn eu herbyn.

“Fel arall, all neb sy’n dymuno gwneud cwyn gael hyder y bydd y system yn eu hamddiffyn, a bydd y rhai y cwynir yn eu herbyn yn cael eu hamddifadu o degwch.

“Mae rhywun o fewn Llywodraeth yr Alban yn amlwg wedi mynd yn groes i hyn, ac mae’n ofynnol bellach i’r Ysgrifennydd Parhaol ddarganfod pwy oedd yn gyfrifol.”

Daeth yr honiadau yn erbyn ymddygiad Alex Salmond tuag at ddau aelod o’i staff yn 2013 – pan oedd yn Brif Weinidog – i’r amlwg ddydd Iau pan gyhoeddodd ddatganiad mewn ymateb i ymholiad gan y Daily Record.

Cyhoeddodd y papur newydd hwnnw fanylion un o’r cwynion dros y penwythnos, a chadarnhaodd Heddlu’r Alban fod y cwynion wedi cael eu cyflwyno i’r heddlu.