Cafodd 126 o bobl eu harestio a 16 o gyllyll eu cipio ar ddiwrnod cyntaf carnifal Notting Hill ddoe.

O’r rhain, cafodd 42 o bobl eu cadw yn y ddalfa ar droseddau’n ymwneud â chyffuriau, 20 ar amheuaeth o fod ag arf ymosodol a saith ar droseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus.

Mae 7,000 o blismyn, gan gynnwys rhai o dasglu troseddau treisgar yr Heddlu Metropolitan, ar ddyletswydd yno yno heddiw “i wrthsefyll y bygythiad o droseddu treisgar”.

Mae disgwyl i’r digwyddiad blynyddol fod wedi denu dros filiwn o bobl dros y ddau ddiwrnod.