Mae dynes o Lundain sydd wedi cael ei rhyddhau o’r carchar dros dro yn Iran wedi clywed y bydd yn rhaid iddi ddychwelyd i’r ddalfa heno (nos Sul).

Roedd Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi gobeithio y byddai’r awdurdodau’n ymestyn y cyfnod y câi fod yn rhydd, ond clywodd hi heddiw bod ei chais wedi bod yn aflwyddiannus, ac y bydd yn rhaid iddi ildio i’r awdurdodau erbyn machlud haul.

Dywedodd ei gŵr Richard nad oedd hi am gael ei llusgo allan o flaen ei phlant ac felly, ei bod hi’n dychwelyd i’r carchar “â’i phen yn uchel”.

Mae ei mam yn gofalu am ferch fach y cwpl, Gabriella.

Cefndir

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe ei rhyddhau am dridiau ddydd Iau, ac roedd hi’n aros gyda’i theulu ar gyrion dinas Tehran.

Mae hi wedi bod yn y carchar ers dwy flynedd a mwy, a gobaith ei theulu oedd y câi hi fod yn rhydd am ychydig wythnosau. Roedd ei chyfreithiwr yn hyderus y byddai hynny’n digwydd.

Cafodd Nazanin Zaghari-Ratcliffe o Hampstead yng ngogledd Llundain ei dedfrydu i bum mlynedd yn y carchar ar ôl cael ei chyhuddo o ysbïo ar lywodraeth y wlad.

Mae hi’n gwadu’r cyhuddiad, gan ddweud ei bod hi ar ei gwyliau yn y wlad er mwyn i’w merch fach weld ei theulu.

Mae hi’n gweithio i Sefydliad Thomson Reuters, a chafodd ei harestio ym maes awyr Imam Khomeini ym mis Ebrill 2016.

Mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Jeremy Hunt wedi galw ar yr awdurdodau i’w rhyddhau er mwyn iddi ddychwelyd at ei theulu yn Lloegr.