Mae dyn wedi marw ac mae dynes mewn cyflwr difrifol yn dilyn tân mewn fflat yn Lerpwl nos Sadwrn.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 10.45yh ac fe ddaethon nhw o hyd i gorff y dyn. Mae lle i gredu ei fod e yn ei 40au.

Cafodd dynes yn ei 40au ei chludo i’r ysbyty, lle mae ei bywyd mewn perygl.

Dydy’r gwasanaethau brys ddim yn gwybod ar hyn o bryd beth oedd achos y tân, ond maen nhw’n cynnal ymchwiliad ac yn apelio am wybodaeth.