Mae’r cyn-Ysgrifennydd Brexit, David Davis wedi lladd ar Ganghellor San Steffan, Philip Hammond ar ôl iddo rybuddio y gallai diffyg cytundeb Brexit niweidio economi gwledydd Prydain.

Mae David Davis wedi wfftio rhagolygon economaidd y Trysorlys, sy’n darogan y gallai GDP ostwng ac y gallai Prydain orfod benthyg £80bn yn fwy bob blwyddyn erbyn 2033-34 pe bai’r llywodraeth yn ildio i delerau Ewrop.

Mewn erthygl yn y Sun ddydd Sul, dywedodd David Davis fod Philip Hammond “naill ai’n eithriadol o analluog, neu’n fwriadol”.

Mae’r Ysgrifennydd Brexit newydd, Dominic Raab wedi rhybuddio y dylid cymryd gofal wrth ddarllen rhagolygon economaidd yn sgil Brexit.

Dyfodol y DU

Dywedodd David Davis fod y Trysorlys yn “ei chael yn anodd darogan diffyg 12 mis ymlaen llaw”, cyn ychwanegu bod y rhagolygon yn “ymgais i godi ofn ar y boblogaeth i ddychmygu goblygiadau mwyaf ofnadwy gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb”.

Ond mae Dominic Raab wedi wfftio’r posibilrwydd o ddirwyn y trafodaethau i ben heb gytundeb.

Mae Philip Hammond wedi amddiffyn safiad Llywodraeth Prydain, gan ddweud bod yr hyn maen nhw’n ei gynnig yn “well o lawer” na cherdded i ffwrdd heb gytundeb.

Yn y cyfamser, mae cyn-Lywydd y Cyngor Ewropeaidd, Herman Van Rompuy wedi rhybuddio y byddai diffyg cytundeb yn niweidio dyfodol y Deyrnas Unedig.